Gwneud i etholiadau’r cynghorau lleol gyfrif ar gyfer pobl â chlefyd Parkinson.
Cynhelir etholiadau’r cynghorau lleol ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru ar ddydd Iau 5 Mai 2022. Rydym eisiau i bawb sydd yn cael eu hethol ddeall a blaenoriaethu anghenion cymuned clefyd Parkinson lle’r ydych chi’n byw.
Sut i gymryd rhan
-
Cofrestrwch i bleidleisio. Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio cyn 14 Ebrill. Peidiwch ag anghofio, os ydych yn troi’n 16 ar neu cyn 5 Mai 2022, byddwch yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau hyn am y tro cyntaf. Nid oes angen i chi aros hyd nes eich bod yn 16 i gofrestru i bleidleisio.
-
Cysylltwch â’ch ymgeiswyr lleol a gofynnwch iddynt ymrwymo i gefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan glefyd Parkinson os cewch eich ethol. Byddwch yn gallu gweld pwy yw eich ymgeiswyr ar wefan eich awdurdod lleol ar ôl 6 Ebrill. Gallwch roi gwybod i ni beth yw eu hymatebion trwy ebostio [email protected].
-
Os bydd ymgeiswyr yn cnocio ar eich drws i siarad â chi am bleidleisio, dywedwch wrthynt am y materion sy’n effeithio arnoch chi yn byw neu’n gofalu am rywun â chlefyd Parkinson.
-
Os ydych yn rhan o gangen, caffi neu grŵp cymorth clefyd Parkinson lleol, rhowch wahoddiad i’ch ymgeisydd i gyfarfod wyneb yn wyneb neu ar-lein a siaradwch â nhw am yr hyn sydd yn bwysig i chi.
Os hoffech gymryd mwy o ran yn ein hymgyrchoedd, gallwch ymuno â’n Rhwydwaith Ymgyrchoedd neu rannu eich stori.