Parkinson's UK Cymru

Rydym yma ar gyfer y gymuned Parkinson's yng Nghymru. Dewch o hyd i gymorth yn eich ardal chi, pwy i gysylltu â nhw a sut i gymryd rhan.

 

Ymgyrchu dros newid yng Nghymru

Mae pobl â Parkinson’s a'u hanwyliaid yn bwysig. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod ein lleisiau yn cael eu clywed a gyrru newid cadarnhaol i wella gwasanaethau a sicrhau gofal a chymorth gwell fel y gall mwy o bobl yng Nghymru fyw'n dda gyda chlefyd Parkinson.

Gwirfoddoli yng Nghymru

Ni allem wneud ein gwaith heb wirfoddolwyr. O helpu i redeg ein grwpiau lleol i gymryd rhan yn ein digwyddiadau neu gefnogi ein hymchwil, mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud pethau anhygoel. Gwirfoddolwch gyda ni a gwnewch wahaniaeth gwirioneddol i'r gymuned Parkinson's leol yng Nghymru.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch, gallwch:

  • ffonio ni yng Nghymru ar 0344 225 3784

  • e-bostio [email protected]

  • ffonio ein llinell gymorth gyfrinachol am ddim ar 0808 800 0303

  • ysgrifennu atom yn: Parkinson's UK Cymru, Swyddfeydd Morwrol, Teras y Coetir, Maesycoed, Pontypridd CF37 1DZ. Ar gyfer gohebiaeth yn unig y mae'r cyfeiriad hwn.

Cadwch olwg ar y diweddaraf

Cadwch lygad ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru ar ein tudalen Facebook Parkinson’s UK Cymru.

Ewch i dudalen Parkinson’s UK Cymru ar Facebook.