Mae cael diagnosis o Parkinson's yn effeithio ar bawb yn wahanol. Mae rhai pobl yn teimlo sioc neu'n ddryslyd. Mae eraill yn teimlo'n ddig neu'n bryderus. Mae rhai pobl yn teimlo rhyddhad i gael esboniad am eu symptomau.
Ni waeth sut rydych chi'n teimlo, rydyn ni yma i chi. Mae gennym ystod o adnoddau i'ch cefnogi chi a'ch teulu, ffrindiau ac eraill sy'n agos atoch chi.
Efallai y byddwch hefyd yn ffeindio hyn yn ddefnyddiol os yw rhywun rydych chi'n ei adnabod wedi cael diagnosis. Mae gennym fwy o wybodaeth am gefnogi rhywun â Parkinson's isod.
Mae'r wybodaeth ar y tudalennau isod yn Saesneg yn unig.
Dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch
Mae Parkinson's yn gyflwr ymennydd cymhleth sy'n gwaethygu dros amser. Mae'n effeithio ar bawb yn wahanol a bydd pobl yn cael profiadau gwahanol o sut mae eu cyflwr yn newid neu'n datblygu.
Mae yna lawer o gyffuriau, triniaethau a therapïau a all helpu i reoli symptomau Parkinson's. Mae Parkinson's pawb yn unigryw. Felly bydd cyfuniadau gwahanol yn addas i wahanol bobl.
Mae gennym ystod o wasanaethau, rhaglenni ac adnoddau i'ch helpu i lywio eich diagnosis Parkinson's. O weminarau a sesiynau gwybodaeth, i'n llinell gymorth a'n teclyn cymorth lleol.
Mae derbyn y gofal cywir gan weithwyr iechyd proffesiynol yn bwysig i sicrhau bod eich symptomau'n cael eu rheoli'n dda. Mae'r wybodaeth hon yn cyflwyno rhai o'r gweithwyr iechyd proffesiynol y gallech eu gweld ar eich siwrnai Parkinson's.
Ni fydd yn rhaid i chi o reidrwydd roi'r gorau i yrru neu weithio pan fyddwch chi'n cael diagnosis o Parkinson's. Ond efallai y byddwch chi'n poeni am y camau nesaf neu gymorth ariannol hefyd. Mae gennym bopeth sydd angen i chi ei wybod.
Pan fyddwch chi'n byw gyda neu'n cefnogi rhywun â Parkinson's, gall fod yn anodd dod i delerau â'r newidiadau y gall hyn eu gwneud i'ch bywyd. Rydyn ni yma i'ch helpu chi hefyd.
Dod i delerau â diagnosis o Parkinson's
I lawer o bobl, gall gymryd amser i addasu pan fyddwch chi'n cael diagnosis o Parkinson's. Gallwch glywed gan arbenigwr ar sut i reoli eich teimladau a'ch emosiynau.
Rhestr o bethau i'w gwneud i bobl sydd newydd gael diagnosis
Os ydych chi newydd gael diagnosis o Parkinson's, gall fod yn anodd gweithio allan beth sydd angen i chi ei wneud yn gyntaf. Mae'r rhestr ymarferol hon yn eich helpu i ddechrau arni.
Parkinson's sy'n dechrau yn ifanc
Mae'r rhan fwyaf o bobl â'r cyflwr yn 50 oed neu'n hŷn, ond gall pobl iau ei gael hefyd. Os ydych chi wedi cael diagnosis yn gynnar, gallwn ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i'ch helpu.
Derbyn gwybodaeth printiedig
Mae ein pecyn rhad ac am ddim i bobl sydd newydd gael diagnosis yn cynnwys gwybodaeth am Parkinson's UK yn ogystal â Parkinson's and you, ein llyfryn print ar gyfer pobl sydd newydd gael diagnosis.