Rhoi clefyd Parkinson ar Agenda Etholiad y Senedd 2021

Cynhelir Etholiad y Senedd (Senedd Cymru) ar 6 Mai 2021.  Rydym eisiau i bawb fydd yn cael eu hethol ddeall a rhoi blaenoriaeth i anghenion cymuned clefyd Parkinson.

Cymryd rhan a’n helpu i gael clefyd Parkinson ar agenda’r etholiad.

Cymryd rhan

Peidiwch anghofio, os ydych yn 16 neu’n 17 oed ym Mai 2021, gallwch bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad y Senedd.

Ebostiwch eich ymgeiswyr lleol a gofyn iddynt ymrwymo i gefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan glefyd Parkinson os byddant yn cael eu hethol. 

Gallwch roi gwybod i ni beth yw eu hymatebion trwy ebostio [email protected].

 

Ein prif faterion

Y llynedd, gofynnwyd i chi beth, yn eich barn chi, oedd y materion pwysicaf i ni ymgyrchu yn eu cylch trwy ein harolwg ‘Beth sydd bwysicaf?’ a’n pôl piniwn coronafeirws.

Dywedodd y canlyniadau wrthym eich bod eisiau i ni ganolbwyntio ar y canlynol yn ein hymgyrchoedd:

  • Iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel
  • Mynediad at y driniaeth iawn ar yr adeg iawn
  • Gallu cael budd-daliadau ariannol
  • Cael meddyginiaeth clefyd Parkinson ar amser yn yn ysbyty neu mewn cartref gofal.

Gallwch ganfod mwy am ein gofynion penodol ar gyfer ymgeiswyr

 

Ar ôl yr etholiad

Ar ôl cynnal yr etholiad ar 6 Mai, byddwn yn cysylltu â phob Aelod o’r Senedd (AS) i’w croesawu a rhoi cyfarwyddyd iddynt ar y prif faterion yn ymwneud â chlefyd Parkinson.

Os hoffech gymryd mwy o ran yn ein hymgyrchoedd, gallwch ymuno â’n Rhwydwaith Ymgyrchoedd neu rannu eich stori.