Diwrnod Parkinson’s y Byd
Cynhelir Diwrnod Parkinson's y Byd ar 11 Ebrill bob blwyddyn i godi ymwybyddiaeth o glefyd Parkinson.
Ar Ddiwrnod Parkinson’s y Byd eleni, rydym yn dathlu'r eiliadau hynny o chwerthin a golau sy'n ein codi. Y person hwnnw sydd bob amser yno i chi. Her newydd yr ydych wedi’i hwynebu’n uniongyrchol ac wedi’i goresgyn, neu wedi dod o hyd i ffordd wahanol o’i chwmpas. Rhannu profiadau gyda chymuned sy'n deall, oherwydd eu bod yn mynd drwyddo hefyd. Nid dim ond ar Ddiwrnod Parkinson’s y Byd. Ond bob dydd.
P'un a ydych chi'n cynnal bore coffi gyda ffrindiau neu'n ymgymryd â her newydd i godi ymwybyddiaeth, rydym am glywed beth rydych chi'n ei wneud i daflu goleuni ar fyw gyda chlefyd Parkinson yng Nghymru ar Ddiwrnod Parkinson’s y Byd eleni.
Sut i gymryd rhan
- Dywedwch wrthym beth rydych yn ei wneud fel y gallwn ei ychwanegu at ein map o weithgareddau Diwrnod Parkinson’s y Byd yng Nghymru.
- Heb benderfynu beth i'w wneud eto? Edrychwch ar ein 'bwydlen' o weithgareddau i weld a oes unrhyw beth yr hoffech roi cynnig arno.
- Anfonwch eich lluniau Diwrnod Parkinson's y Byd atom fel y gallwn eu cynnwys ar ein tudalen Facebook Cymru yn ein diweddariad Diwrnod Parkinson's y Byd yng Nghymru.
- Cymerwch gipolwg ar yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y DU - gallech gyflwyno cerdd os ydych chi'n teimlo'n greadigol!
Cysylltwch â Rebecca Lydon a rhowch wybod iddi beth rydych yn ei wneud neu os oes angen unrhyw help arnoch gydag awgrymiadau [email protected]
Os na allwch feddwl am syniadau, edrychwch ar ein syniadau isod i gael ysbrydoliaeth
- Paned ar gyfer Parkinson's - cynnal bore coffi.
- Adrenalin - Mae jyncis adrenalin yn gwneud llinell sip.
- “Reach Out” - Estynnwch allan at eich Aelod Seneddol (AS) lleol a dywedwch wrthynt am glefyd Parkinson.
- “Knit” - Cewch wau ymennydd glas.
- “Inspire” - Ysbrydolwch rywun rydych chi'n ei adnabod i gymryd rhan.
- Newydd - Rhowch gynnig ar rywbeth allan o'ch parth cysur.
- “Snap” - Tynnwch lun ohonoch yn eich crys-t gwyrddlas Parkinson's.
- O mor las! Lliwiwch eich gwallt neu gwisgwch wig las.
- Goleuwch yn ystod y “nos” - boed yn dŷ neu'n dirnod lleol, trowch Gymru'n las.
- Samba Sbarclyd. Cymerwch ysbrydoliaeth gan ein ffrindiau yn Ne Cymru sydd wedi dechrau band samba a rhoi cynnig ar sgil newydd.