Mae cael diagnosis o Parkinson's yn effeithio ar bawb yn wahanol. Mae rhai pobl yn teimlo sioc neu'n ddryslyd. Mae eraill yn teimlo'n ddig neu'n bryderus. Mae rhai pobl yn teimlo rhyddhad i gael esboniad am eu symptomau.
Ni waeth sut rydych chi'n teimlo, rydyn ni yma i chi. Mae gennym ystod o adnoddau i'ch cefnogi chi a'ch teulu, ffrindiau ac eraill sy'n agos atoch chi.
Efallai y byddwch hefyd yn ffeindio hyn yn ddefnyddiol os yw rhywun rydych chi'n ei adnabod wedi cael diagnosis. Mae gennym fwy o wybodaeth am gefnogi rhywun â Parkinson's isod.
Mae'r wybodaeth ar y tudalennau isod yn Saesneg yn unig.
Dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch
Dysgwch fwy am Parkinson’s gan gynnwys beth ydyw, mathau a sut mae'n datblygu.
Darllenwch am y gwahanol driniaethau a therapïau i reoli Parkinson’s.
Dysgwch am y cymorth rydyn ni'n ei gynnig i bobl sydd newydd gael diagnosis.
Dysgwch fwy am ofal iechyd i bobl â Parkinson’s.
Dysgwch am gymorth ariannol a'ch hawliau a'ch opsiynau cyfreithiol.
Dysgwch fwy am yrru, teithio a mynd ar wyliau gyda Parkinson's.
Darllenwch am gefnogi neu ofalu am rywun â Parkinson’s.
Dysgwch fwy am Parkinson's sy'n dechrau'n ifanc.
Dod i delerau â diagnosis o Parkinson's
I lawer o bobl, gall gymryd amser i addasu pan fyddwch chi'n cael diagnosis o Parkinson's. Gallwch glywed gan arbenigwr ar sut i reoli eich teimladau a'ch emosiynau.
Rhestr o bethau i'w gwneud i bobl sydd newydd gael diagnosis
Os ydych chi newydd gael diagnosis o Parkinson's, gall fod yn anodd gweithio allan beth sydd angen i chi ei wneud yn gyntaf. Mae'r rhestr ymarferol hon yn eich helpu i ddechrau arni.
Parkinson's sy'n dechrau yn ifanc
Mae'r rhan fwyaf o bobl â'r cyflwr yn 50 oed neu'n hŷn, ond gall pobl iau ei gael hefyd. Os ydych chi wedi cael diagnosis yn gynnar, gallwn ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i'ch helpu.
Derbyn gwybodaeth printiedig
Mae ein pecyn rhad ac am ddim i bobl sydd newydd gael diagnosis yn cynnwys gwybodaeth am Parkinson's UK yn ogystal â Parkinson's and you, ein llyfryn print ar gyfer pobl sydd newydd gael diagnosis.