Codi arian yng Nghymru

Mae ein gwaith yng Nghymru ac ar draws y DU yn cael ei ariannu trwy haelioni pobl fel chi.

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi godi arian i ni. O gynnal gwerthiant cacennau, cymryd rhan mewn her gerdded neu redeg, neu gymryd rhan yn y gwaith, byddwn ni yno i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd.

Mae unigolion, grwpiau corfforaethol, sefydliadau cymunedol ac ymddiriedolaethau yn ei gwneud hi'n bosibl i ni ariannu ymchwil arloesol a darparu gwaith lleol hanfodol yng Nghymru. A gallwch chi ofyn am i'r arian a godir gefnogi pobl â Parkinson's yng Nghymru yn unig.

Cwrdd â'n swyddog codi arian cymunedol

Os oes angen cymorth arnoch neu os oes gennych gwestiynau am godi arian yng Nghymru, cysylltwch â'n swyddog codi arian cymunedol, Keri McKie.

E-bost: [email protected]

Ffôn: 07900 052 526

Digwyddiadau codi arian Cymru

O deithiau cerdded, rhedeg, heriau beicio a chymaint mwy. Mae digwyddiad i bawb yng Nghymru.