Cymorth lleol i chi yng Nghymru

Dewch o hyd i grwpiau, gweithgareddau a chyngor yng Nghymru.

Dod o hyd i wasanaethau, gweithgareddau a chymorth yng Nghymru

Mae gennym fwy na 30 o grwpiau cymorth dan arweiniad gwirfoddolwyr ledled Cymru, sy'n darparu gwasanaeth hanfodol i gymunedau lleol. P'un a ydych chi eisiau rhannu eich profiadau, dysgu mwy am y cyflwr, cymryd rhan mewn gweithgaredd, neu gael sgwrs dros baned o de, mae rhywbeth i chi.

Mae ein gweithgareddau cymunedol ar agor i deulu a gofalwyr, yn ogystal â phobl â Parkinson’s. Mae gan rai grwpiau weithgareddau penodol ar gyfer gofalwyr. 

Dod o hyd i gymorth lleol yng Nghymru. 

Ein cynghorwyr lleol

Our Local Advisors in Wales standing in a line, all female and wearing Parkinson's UK branded t-shirts in various colours.

O Ynys Môn i Fro Morgannwg, Sir Benfro i Sir Fynwy. Lle bynnag yr ydych yng Nghymru, gall ein tîm o gynghorwyr lleol arbenigol helpu unrhyw un sy'n byw gyda Parkinson's.

Mae ganddyn nhw wybodaeth leol am yr ardal rydych chi'n byw ynddi a gallant eich cynghori a'ch cefnogi gyda rheoli symptomau, cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, cyflogaeth a budd-daliadau, a llawer mwy. Maen nhw'n darparu gwasanaeth un-i-un wedi'i deilwra yn y gymuned, dros y ffôn, neu drwy ein gwasanaeth ymweld â chartrefi. 

Cysylltwch â'n llinell gymorth i ddod o hyd i'ch cynghorydd lleol.

Ein tîm datblygu cymunedol

Our Community Development team in Wales standing in a line wearing Parkinson's UK navy t-shirts.

Mae cymryd rhan yn y gymuned leol yn bwysig i bobl sy'n byw gyda Parkinson's. Mae ein tîm datblygu cymunedol yn cefnogi ein grwpiau dan arweiniad gwirfoddolwyr ledled Cymru, gan helpu pobl â Parkinson's a'u hanwyliaid i wneud cysylltiadau cymdeithasol a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau yn eu hardal leol.

Cysylltwch â'r tîm: 

Rhaglen cymorth llais Live Loud!

Mae rhaglen cymorth llais Live Loud! yn ffordd rhad ac am ddim, hwyliog a chymdeithasol o ymarfer siarad yn uwch ac yn gliriach.