Live Loud! Rhaglen gymorth i’r llais

Mae Live Loud!, rhaglen gymorth i’r llais, yn grŵp ar-lein hwyliog a chymdeithasol, am ddim gan Parkinson’s UK i’ch helpu chi i ymarfer siarad yn uwch ac yn gliriach.

Ar gyfer pwy mae’r rhaglen?

Mae’r sesiynau ar gyfer pobl â chlefyd Parkinson sydd eisiau cynnal neu wella uchder ac eglurder eu llais.

 

Ble mae’r grwpiau?

  • Mae gennym grwpiau ar gyfer pobl sydd yn byw yng Nghaerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy. Gallwch ymuno â’r grwpiau hyn unrhyw bryd.
  • Rydym hefyd yn cynnal grŵp Zoom ar gyfer pobl sy'n byw yn unrhyw le yng Nghymru.

 

Pryd maent yn cael eu cynnal?

  • Cynhelir grwpiau Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy bob pythefnos ar ddydd Llun.
  • Mae grŵp Cymru Gyfan yn cael ei gynnal bob pythefnos ar ddydd Iau.

 

Pa weithgareddau ydych chi’n eu gwneud?

Mae ein sesiynau yn hwyliog ac yn amrywiol. Maent yn cynnwys dweud clymau tafod, dweud jôcs, darllen barddoniaeth a straeon allan yn uchel, yn ogystal ag ymarferion anadlu a ioga’r wyneb. Rydym hefyd yn cynnal trafodaethau, gemau a sesiynau chwarae rôl.

 

Sut gallaf ymuno?

Cofrestrwch yma iymuno ag un o'r grwpiau Cymru gyfan.

Bydd un o’n gwirfoddolwyr mewn cysylltiad i’ch gwahodd i sesiwn Zoom neu i ddweud wrthych eich bod wedi cael eich rhoi ar restr aros.

I ymuno â’r grwpiau eraill, ebostiwch Dawn McGuinness neu ffoniwch 0344 225 3713.

Bydd angen cyfrifiadur, llechen, iPad neu ffôn clyfar a chysylltiad â’r rhyngrwyd arnoch i gymryd rhan. Gallwn eich helpu i fynd ar Zoom.

Alla i wirfoddoli?

Ni allem redeg Live Loud! heb ein timau gwirfoddol. Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am yr hyn sydd ynghlwm a sut i wneud cais.